Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Mai 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(5 munud)
NDM6293
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
(a) adrannau 3 - 26
(b) adran 2
(c) adrannau 27 - 52
(d) adrannau 54 - 91
(e) adran 53
(f) adrannau 92 – 124
(g) Atodlenni 1 – 4
(h) adran 1
(i)Teitl Hir
(60 munud)
NDM6292
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:
a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;
b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;
c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a
d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.
Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes 2016-2020 a’r Adroddiad Blynyddol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mor bwysig yw rhaglenni addysg strwythuredig i helpu pobl i reoli diabetes, ac yn gresynu na all dros 50 y cant o blant a phobl ifanc cymwys gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Mai 2017